Amdano | About
Cefnogi creadigrwydd ar hyd arfordir Ceredigion
Connecting creativity along the Ceredigion coast
Pwy ydyn ni | Who we are
Mae Big Wave | Ton Fawr yn gwmni buddiant cymunedol dan arweiniad artistiaid. Rydyn ni’n gweithio o Aberystwyth, tref sydd bellach yn Dinas Lenyddiaeth UNESCO, ac yn fan cychwyn naturiol i’n gwaith. O’r fan hon rydyn ni’n adeiladu rhywbeth sy’n tyfu o’r lle ond sydd hefyd yn edrych allan i Gymru ac ymhellach.
Big Wave | Ton Fawr is an artist-led community interest company. We work from Aberystwyth, now a UNESCO City of Literature and a natural starting point for our work. From here we are building something that grows from this place while looking outward to Wales and beyond.
Ein gweledigaeth | Our vision
Mae creadigrwydd yng Nghymru’n teithio’n eang. Mae gan drefi arfordir Ceredigion botensial prin, ac rydyn ni’n creu lle i waith uchelgeisiol gymryd gwreiddyn yma. Rydyn ni’n croesawu gwaith sy’n symud rhwng disgyblaethau, cymunedau a’r gofod cyhoeddus.
Creativity in Wales travels widely. The coastal towns of Ceredigion hold a rare kind of potential, and we are creating space for ambitious work to take root here. We welcome work that moves between disciplines, communities and the public realm.
Pam yma | Why here
Mae creadigrwydd yn rhan o fywyd bob dydd ar hyd yr arfordir, ond gall artistiaid fod ar eu pennau eu hunain. Rydyn ni’n ceisio creu mwy o sgwrs, cysylltiad ac argaeledd i’r bobl sy’n gwneud gwaith yma.
Creativity is woven into daily life along the coast, but artists can find themselves working alone. We aim to create more conversation, connection and opportunity for the people making work here.
Ein hegwyddorion | Our ethos
Rydyn ni’n credu mewn gofal, arafwch a chreadigrwydd sy’n perthyn i bawb. Rydyn ni’n dathlu’r iaith a’r diwylliant sy’n gwneud y lle hwn yn arbennig, ac yn credu bod creadigrwydd yn gwneud ein trefi’n llefydd gwell i fyw a gweithio.
We believe in care, slowness and creativity that belongs to everyone. We celebrate the language and culture that make this place special, and we believe creativity makes our towns better places to live and work.
Ein rhythm | Our rhythm
Bob dwy flynedd rydyn ni’n cynnal Gŵyl Cariad Aber, gŵyl sy’n tyfu o’r lle ond sy’n cyrraedd y tu hwnt iddo. Yn y blynyddoedd rhyngddyn nhw rydyn ni’n datblygu syniadau newydd, yn rhoi lle i brosiectau dyfu ac yn profi mathau gwahanol o waith yn y gofod cyhoeddus.
Every two years we host Gŵyl Cariad Aber, a festival that grows from this place while reaching beyond it. In the years between we develop new ideas, give projects room to grow and test different kinds of work in public space.
Cydweithio | Collaboration
Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ledled Aberystwyth ac ar hyd y sir. Mae partneriaethau yn caniatáu i’n syniadau dyfu’n greadigol ac yn gymunedol.
We work with partners across Aberystwyth and throughout the county. Partnerships allow our ideas to grow creatively and communally.
Rydyn ni’n gweithio drwy raglenni dan arweiniad artistiaid, comisiynau cyhoeddus a phartneriaethau, gan ddatblygu prosiectau dros amser mewn sgwrs agos â chymunedau lleol.
We work through artist-led programmes, public commissions and partnerships, developing projects over time in close conversation with local communities.
Ein gobaith | Our hope
Rydyn ni eisiau gweld celf uchelgeisiol yn ffynnu yng nghalon Cymru. Mae’r hyn a wnawn yn tyfu o’n cymuned ac yn cyrraedd ledled y wlad.
We want ambitious art to thrive in the heart of Wales. What we build grows from our community here and reaches out across the whole country.